Am gannoedd o flynyddoedd, roedd Ystâd Penrhos yn cyflogi cenedlaethau o bobl o ardal Caergybi gan gynhyrchu incwm sylweddol fel ystâd ffermio brysur. Roedd gweithgarwch yn troi o amgylch ffermio gwartheg cig eidion, ac roedd yr ystâd yn enwog am ei theirw gwobrwyedig.

Yn fwy diweddar, mae Penrhos wedi bod yn gartref i ffatri Metelau Alwminiwm Môn. Gyda 540 o weithwyr, hwn oedd un o’r cyflogwyr diwydiannol mwyaf yng Ngogledd Cymru. Hyd at ei gau yn 2009, roedd Metelau Alwminiwm Môn yn cynhyrchu hyd at 142,000 tunnell o alwminiwm bob blwyddyn. Am ddegawdau lawer, ffatri Penrhos oedd y defnyddiwr sengl mwyaf o drydan (255 MW) yn y Deyrnas Unedig.

Credwn fod dyfodol mwy cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd o’n blaenau. Bydd cynllun pentref hamdden a ddarperir yn ofalus yn diogelu mynediad cyhoeddus i’r rhan brydferth hon o’r byd, wrth adfywio cymunedau lleol a hyrwyddo hyfywedd economaidd cynaliadwy am genedlaethau i ddod.

Fel y sector economaidd mwyaf ar yr ynys, mae twristiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at ffyniant lleol ac ansawdd bywyd Ynys Môn. Mae’n cynhyrchu mwy na £360m ar gyfer economi’r ynys, gan gefnogi dros 3,600 o swyddi yn uniongyrchol*. Mae cannoedd o fusnesau lleol yn dibynnu ar wariant ymwelwyr ar yr ynys.

Fodd bynnag, mae breguster sylfaenol i economi Ynys Môn, sy’n cael ei nodweddu gan lefelau uwch na’r cyfartaledd o ddiweithdra ac amddifadedd cymdeithasol. Mae argaeledd tai fforddiadwy wedi cael ei effeithio gan y twf esbonyddol mewn llety rhent ar gyfer gwyliau ac AirBnBs, ac o ganlyniad, mae llawer o bobl ifanc yn gadael yr ynys i chwilio am waith a thai fforddiadwy mewn mannau eraill.

Bydd Pentref Hamdden Penrhos yn helpu i fynd i’r afael â rhai elfennau o’r breguster hwn yn yr economi leol. Fel busnes a chyrchfan i ymwelwyr a fydd ar agor drwy’r flwyddyn, bydd y pentref hamdden yn darparu canran fawr o swyddi parhaol drwy gydol y flwyddyn.

Bydd strategaeth recriwtio ragweithiol yn blaenoriaethu pobl leol a siaradwyr Cymraeg. Yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar y safle, bydd y cynnydd cysylltiedig mewn gwariant ymwelwyr yn cefnogi busnesau cartref ar Ynys Môn gan gynnwys crefftwyr lleol, manwerthwyr, caffis, bwytai, tafarndai, darparwyr antur a gweithgareddau.

*Ffigurau Cynllun Rheoli Cyrchfan Cyngor Sir Ynys Môn 2023

Pam mae hyn yn bwysig?

  • Meysydd Parcio
  • Toiledau Cyhoeddus
  • Rheoli coetiroedd
  • Cynnal a chadw ac atgyweirio llwybrau troed
  • Cael gwared â sbwriel
  • Rheoli tipio anghyfreithlon
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Yn 2022, roedd costau rheoli i gefnogi mynediad cyhoeddus ym Mhenrhos yn fwy na £200,000, ffigwr y disgwylir y bydd ei angen yn flynyddol.

Mae angen incwm sylweddol a chynaliadwy ar Barc Arfordirol Penrhos i dalu am ei gostau. Fel arall, byddai llwybrau troed, meysydd parcio, coetiroedd a thoiledau yn adfeilio gan olygu na fyddai modd eu hyswirio na’u defnyddio. Bydd cynllun arfaethedig Pentref Hamdden Penrhos yn darparu ffrwd incwm gynaliadwy i sicrhau bod llwybrau troed a choetiroedd yn gallu cael eu cynnal yn dda a’u cadw ar agor i’r cyhoedd yn y tymor hir.

NODYN AR GYNLLUNIO

Gwnaed dechrau effeithiol ar y gwaith datblygu ym Mhenrhos yn 2021, sy’n golygu bod y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle bellach yn ddilys am byth. Cafodd y gwaith datblygu llawn ei ohirio wrth i ni ddisgwyl i’r heriau presennol yn economi’r DU lacio. Bydd diweddariadau pellach ar gael yn 2024.

Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod mwy am ddatblygiad y pentref gwyliau, a sut y bydd yn effeithio ar Benrhos ac Ynys Môn.